Corff annibynnol ymroddedig i ddiogelu, archwilio, cofnodi a hybu’r amgylchedd hanesyddol yw Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed.
Er bod ganddo ymroddiad rhanbarthol cryf, mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cynnig gwasanaethau proffesiynol dros ardal eang, o fewn Cymru a’r tu hwnt hefyd.
Cwmni Preifat Cyfyngedig ac Elusen Gofrestredig yw Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a’i hamcanion yw gwella addysg y cyhoedd mewn archaeoleg. Rheolir yr Ymddiriedolaeth gan Fwrdd o
Ymddiriedolaethwyr, sydd yn penodi Pwyllgor Rheoli. Trwy wahoddiad yr Ymddiriedolaethwyr yn unig y mae dod yn aelod o’r Ymddiriedolaeth, ac mae’n cynnig arbenigedd academaidd a phroffesiynol amrywiol mewn archaeoleg a meysydd cysylltiedig.
Cyfannir hyn gan gysylltiadau a phartneriaethau, a sefydlwyd ers talwm, gydag arbegiwyr allanol a chyrff arbenigol sy’n galluogi Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed i gynnig gwasanaethau ymgynghori a gweithredu eang.